Rydym ni'n cyhoeddi cylchlythyr ar bapur sy'n cynnwys newyddion a datblygiadau diddorol ar gyfer defyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
£5.5m ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ‘personol’
Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths gyllid newydd gwerth £5.5m heddiw (dydd Mercher 28 Rhagfyr) er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
Caiff £3.5m ei ddefnyddio ar gyfer cefnogaeth ar lefel leol, sy’n golygu darparu gwell gwasanaethau iechyd meddwl mewn lleoliadau gofal sylfaenol fel meddygfeydd.
Bydd y £2m arall yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol estynedig. Mae’r gwasanaeth yn helpu ac yn cefnogi cleifion i ddeall ac arfer eu hawliau cyfreithiol.
Mae’r cyllid yn helpu i weithredu Mesur Iechyd Meddwl (Cymru), a ddaeth i rym yn 2010, sy’n sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu dylunio’n well ar sail anghenion cleifion.
Bydd pob claf o fewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd hefyd yn derbyn cynllun gofal a thriniaeth unigol, a ddatblygwyd ar y cyd â hwy a’u gofalwyr.
Bydd gan gleifion sy’n cael eu rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd lwybr uniongyrchol yn ôl at wasanaethau hefyd, os byddant yn teimlo bod eu hiechyd meddwl yn dirywio ar ôl eu rhyddhau.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths:
"Mae un o bob pedwar ohonom yn dioddef afiechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod eu bywydau, a bydd y cyllid hwn yn caniatáu gwell cefnogaeth i bobl yn agosach at eu cartrefi.
"Bydd yr arian ychwanegol hwn yn golygu y bydd gwasanaethau iechyd meddwl ar gael o fewn lleoliadau gofal sylfaenol ac yn cael eu darparu ochr yn ochr â’r gwasanaethau iechyd cyffredinol y mae meddygon teulu yn eu cynnig.
"Bydd gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy personol, gan ganolbwyntio ar y model adferiad ar gyfer gofal a thriniaeth, ac yn cael eu teilwra’n briodol ar gyfer grwpiau penodol.
Hoffech chi wybod am gyfarfodydd a digwyddiadau sy'n cael eu cynnal nawr? Cyswlltwch a:
Hilary Roberts
Swyddog Cyswllt Defnyddwyr Gwasanaethau a Chynhalwyr, Unllais
Swyddfa Llawer 1af
11 Stryd y Dyffryn
Dinbych, Sir Ddinbych
LL16 3AD
Ffôn: 01745 818720
E-bost: pacd@unllais.co.uk