Cynnwys

 

Yng Nghonwy a Sir Ddinbych mae’r Bartneriaeth Iechyd Meddwl Oedolion Integredig wedi ymrwymo i gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr mewn datblygu, cynllunio a monitro gwasanaethau. Mae gan ddefnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr brofiadau gwerthfawr a all wella gwasanaethau iechyd meddwl lleol iddynt eu hunain ac i eraill.

 

Ceir isod rai o’r cyfleoedd y gall defnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr gymryd rhan ynddynt:

 

  • Recriwtio a Dethol Staff y Bartneriaeth
  • Hyfforddiant i staff
  • Datblygu, cynllunio a monitro gwasanaethau
  • Ymgynghori
  • Eich cynllun gofal personol

 

Gallwch gael gwrandawiad trwy’r canlynol:

 

  • Bod yn gynrychiolydd defnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr
  • Cynghorau cleifion
  • Fforymau defnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr
  • Grwpiau defnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr
  • Cysylltu ag aelodau’r Bwrdd Defnyddwyr Gwasanaethau a Chynhalwyr

 

Sut i gymryd rhan

 

Mae’r Bartneriaeth wedi sefydlu ‘cronfa’ o ddefnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr sydd am gymryd rhan mewn datblygu gwasanaethau iechyd meddwl. Cedwir eich manylion yn gyfredol fel y gallwch gael gwybod am yr hyn sy’n mynd ymlaen yn y Bartneriaeth ac am y cyfleoedd newydd wrth iddynt godi ynghyd â’r cyfarfodydd rheolaidd. Ni fydd unrhyw wybodaeth a roddir gennych chi’n cael ei rhannu gyda sefydliad arall.


Mae bod â chronfa ddata’n sicrhau bod pobl o ystod eang o gefndiroedd yn cymryd rhan sydd â gwybodaeth am ddefnyddio amrywiaeth o wasanaethau. Pwy gwell i’n helpu i ddatblygu gwasanaeth iechyd meddwl neilltuol na rhywun sydd wedi’i ddefnyddio ei hun!

I gymryd rhan, cysylltwch â:

 

Hilary Roberts
Swyddog Cyswllt Defnyddwyr Gwasanaethau a Chynhalwyr, Unllais
Eirianfa, Lle’r Ffatri, Dinbych Sir Ddinbych

Ffôn: 01745 818720 neu e-bost: pacd@unllais.co.uk

 

Cefnogaeth a Thaliadau

 

I’ch helpu i chwarae rhan lawn fel cynrychiolydd defnyddwyr gwasanaethau/cynhalwyr, darperir cefnogaeth mewn sawl ffordd:

 

  • Mynediad i hyfforddiant
  • Sicrhau bod yr holl wybodaeth gennych i allu cymryd rhan yn llawn
  • Mynediad i sgyrsiau ar gyfer aelodau sy’n ddefnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr, ac i Hilary am eich rôl
  • Erioed wedi bod yn gynrychiolydd defnyddwyr gwasanaethau/cynhalwyr o’r blaen? Gall Hilary fynychu cwpl o gyfarfodydd gyda chu nes eich bod yn dod i arfer
  • Costau teithio a lwfans mynychu

 

Pam cynnig tâl?

 

Mae’r Bartneriaeth yn cydnabod y cyfraniad y mae defnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr yn ei wneud trwy gynnig tâl am eu hamser. Y nod yw sefydlu perthynas broffesiynol rhwng staff a defnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr sy’n seiliedig ar gydraddoldeb. Nid yw’r tâl i fod i gyfaddawdu annibyniaeth defnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr.

 

Cyfrifoldeb yr unigolyn yw ceisio cyfarwyddyd gan yr asiantaethau perthnasol e.e. yr Adran Lles a Phensiynau neu’r Swyddfa Dreth leol, cyn derbyn taliadau fel cynrychiolydd defnyddwyr/cynhalwyr.

 

E-bost: pacd@unllais.co.uk